Peter Lord | |
---|---|
Ganwyd | 1948 |
Galwedigaeth | hanesydd celf, cyflwynydd teledu |
Cerflunydd a hanesydd celf o Sais yw Peter Lord (ganwyd 1948). Fel hanesydd mae'n arbenigo ym maes diwylliant gweledol Cymru, yn arbennig arlunwyr o'r 18g a'r 19g, a delweddu diwydiannau Cymru yn hanner cyntaf yr 20g.[1] Mae wedi cyhoeddi llawer o lyfrau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Graddiodd yn y celfyddydau cain ym Mhrifysgol Reading yn 1970. Mae'n aelod o Orsedd y Beirdd, o'r Academi Gymreig, ac yn aelod anrhydeddus o'r Academi Frenhinol Gymreig a Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru.